... O ganlyniad i dŵf cadarn, daeth yn gwmni cyfyngedig yn 2005 gyda gweithlu llawn hyfforddedig a phrofiadol yn cynnal prosiectau peirianneg sifil.
Ein hardal gweithredu yw Gogledd a Chanolbarth Cymru ac amcan y cwmni yw darparu a chynnal saernïaeth o safon uchel gan ddefnyddio adnoddau lleol pan yn bosibl.
Mae gennym bolisi iechyd a diogelwch a phrosesau diogelwch llym sy’n cael eu cynnal a’u hadolygu yn rheolaidd, gyda dros 95% o’r gweithlu wedi eu cofrestru ar Gynllun Ardystio Sgiliau Adeiladwaith. Mae ein gweithlu’n hynod brofiadol ac yn llawn cymhelliant, ac maent yn derbyn hyfforddiant iechyd a diogelwch rheolaidd i sicrhau eu bod yn dilyn ein polisiau diogelwch ni, yn ogystal â’r Rheoliadau Cyfraith Iechyd a Diogelwch deddfwriaethol. Bydd pob cytundeb unigol yn amodol ar asesiad diogelwch trylwyr a byddwn yn gweithio o fewn codau ac arferion amgylcheddol cymeradwy.
Mae’r cwmni’n UKAS achrededig gyda ISO 9001:2015 (System Rheoli Ansawdd); ISO 14001:2015 (System Rheoli Amgylcheddol) ac OHSAS 18001:2007 (System Rheoli Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol).
Mae’r cwmni’n gweithredu System Reoli Integredig ar yr holl safonau uchod.
• Prosiectau Peirianneg Sifil; gan gynnwys ffyrdd, pontydd a strwythurau arfordirol morwrol
• Draenio; gosod ceuffosau
• Hwyluso sylfaeni ar gyfer datblygiadau tai
• Gwelliannau amgylcheddol a phedestreiddio
• Walio; ‘crib walling’, walio sych, walio cerrig morter; waliau cynnal; waliau cynnal ‘gabion basket’
• Cliriad safle a chloddio swmp
• Gwaith ffensio yn cynnwys: cadwyn-gyswllt, palis, bwa top, ffens stoc, ffensio coed ‘hit and miss’, cledrau gwarchod cerddwyr
• Cyflenwi a gosod Systemau Atal Cerbydau (VRS)
• Prosiectau Dwr Prif
• Prosiectau pŵer hydro

• Prosiectau cyflenwad dwr
• Prosiectau pŵer hydro
Hawlfraint 2018, Peirianneg Sifil Gelli Cyf Cedwir pob hawl
Neuadd Y Farchnad, Stryd Fawr, Tremadog, LL49 9RD